Get in touch

Tudalen Canllawiau Adrodd P1

Adrodd ar Dderbynyddion Grantiau

Mae Derbynyddion Grantiau yn destun amryw ofynion adrodd. Bydd yr adran hon yn rhoi manylion pob math o adroddiad a allai fod yn ofynnol ei gwblhau. I weld manylion pa adroddiadau y mae angen i chi eu cyflwyno a phryd y mae angen eu cyflwyno, edrychwch ar Atodlen 1- Proses Amserlen Dalu.

Adroddiad y Cyfranogwr

Mae’r adroddiad y cyfranogwr yn casglu data cyfranogwyr ar gyfer eich symudeddau sydd wedi’u cwblhau. Ar ôl cwblhau symudedd, rhaid diweddaru adroddiad y cyfranogwr. Mae’r adroddiad yn cael ei gadw yn eich ffolder adrodd unigol, ynghyd â nodyn canllawiau i’ch helpu chi i gyflwyno’ch adroddiad cyfranogwr. Cofiwch ddarllen drwy’r ddogfen ganllawiau cyn cwblhau’r adroddiad. Rhaid llenwi’r holl feysydd data gofynnol; mae’r ddogfen ganllawiau yn rhestru’r meysydd gorfodol. Lle nad oes angen data ar gyfer cyfranogwr penodol, bydd y gell yn troi’n llwyd fel dangosydd.

Mae adroddiad y cyfranogwr wedi’i ddylunio i adrodd gwybodaeth heb adnabod y cyfranogwr, serch hynny, disgwylir y bydd y Derbynyddion Grantiau yn gallu adnabod cyfranogwyr prosiect ac yn gallu cynnig gwybodaeth bellach pan ofynnir amdani. Er mwyn sicrhau bod Derbynyddion Grantiau yn gallu gwneud hyn, cynghorir bod pob cyfranogwr unigol yn derbyn dynodwr unigryw (cyfeirnod) er mwyn gallu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ymholiadau. Gellir alinio hyn â system gyfeirnodi y Derbynnydd Grant ei hun megis rhif myfyriwr.

Os bydd cyfranogwr yn cymryd rhan mewn mwy nac un symudedd, dylent gael yr un dynodwr cyfranogwr ar gyfer pob symudedd a gofnodir. Bydd hyn yn galluogi i Taith adrodd ar union nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan ynghyd â nifer y symudeddau sydd wedi digwydd.

Er enghraifft, os bydd cyfranogwr yn derbyn y cyfeirnod 1234 a’i fod yn mynd ar fwy nac un symudedd, dylid defnyddio’r un cyfeirnod ar gyfer y cyfranogwr.

Ni ddylid cofnodi unrhyw enwau o fewn yr offeryn adrodd.

Adroddiad cyfranogwyr

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm ar support@taith.wales

Adroddiad Chwarterol/Dros Dro

Efallai y bydd angen i rai Derbynyddion Grantiau gyflwyno adroddiad dros dro. Darllenwch ein Hatodlen 1 i weld pa bryd y mae angen cyflwyno eich adroddiad dros dro. Bydd y tîm Taith yn uwchlwytho’ch adroddiad dros dro i’ch ffolder adrodd ac yn cysylltu â chi trwy e-bost gyda dyddiad cau i gwblhau’ch adroddiad.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 5 adran, a’r rhain yw:

Canllawiau– Cofiwch ddarllen drwy’r adran hon cyn cwblhau’ch Adroddiad dros dro

Trosolwg– Mae’r adran hon yn cael ei llenwi’n awtomatig gyda gwybodaeth am eich prosiect.

Adroddiad Cynnydd– Mae’r adran hon yn gofyn cyfres o gwestiynau naratif yn ymwneud â’ch prosiect, atebwch mor fanwl â phosibl

Gwariant yn erbyn Cyllideb– Bydd Taith yn cwblhau’r costau uned ar gyfer y Derbynnydd Grant gan ddefnyddio data o adroddiadau’r cyfranogwyr. Bydd angen i unrhyw gostau gwirioneddol gael eu llenwi gan y Derbynnydd Grant.

Adrodd ar Weithgarwch Grant– Llenwch eich data cyfranogwr yn gywir, dylai hyn gyd-fynd â’r ffigurau ar eich adroddiad cyfranogwr.

Rhagolwg– Rhowch ragolwg o’r prosiect ar gyfer gweddill eich prosiect, mor gywir â phosibl.

Gweler templed y ddogfen yma- Templed Adroddiad Interim

Adroddiad Terfynol

Bydd gofyn i bob prosiect gyflwyno adroddiad terfynol. Nod yr adroddiad terfynol yw rhoi darlun llawn o’ch gweithgareddau grant a dangos yr effaith y mae’r prosiect wedi’i chael ar eich sefydliad a’r gymuned ehangach. Rhaid i’r adroddiad terfynol gael ei gyflwyno o fewn 30 diwrnod yn dilyn dyddiad gorffen eich prosiect, bydd yr adroddiad yn cael ei uwchlwytho i’ch ffolder adrodd.

Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys:

Canllawiau– Cofiwch ddarllen drwy’r adran hon cyn cwblhau’ch adroddiad terfynol

Trosolwg– Mae’r adran hon yn cael ei llenwi’n awtomatig gyda gwybodaeth am eich prosiect.

Adroddiad Cynnydd– Mae’r adran hon yn gofyn cyfres o gwestiynau naratif yn ymwneud â’ch prosiect, atebwch mor fanwl â phosibl.

Gwariant yn erbyn Cyllideb– Bydd Taith yn cwblhau’r costau uned ar gyfer y Derbynnydd Grant gan ddefnyddio data o adroddiadau’r cyfranogwyr. Bydd angen i unrhyw gostau gwirioneddol gael eu llenwi gan y Derbynnydd Grant a bydd angen cyflwyno derbynebau cysylltiedig gyda’r adroddiad terfynol.

Adrodd ar Weithgarwch Grant– Llenwch eich data cyfranogwr yn gywir, dylai hyn gyd-fynd â’r ffigurau ar eich adroddiad cyfranogwr.

Data cyfranogwr cyfnewidfa rithwir (os yw’n berthnasol) – lle mae cyfnewidfeydd rhithwir wedi digwydd, bydd gofyn i chi gyflwyno’r data cyfranogwyr yma.

Mae templed o’ch adroddiad terfynol i’w weld yma- Templed adroddiad terfynol